Cyn i ni ddechrau, dywedwch wrthym sut ydych yn teimlo am eich arian?
A ydych yn barod? Yna gadewch i ni wneud hyn. Yn wythnos un, rydym yn mynd i ddangos i chi sut i lunio a chadw at gyllideb sy’n gweithio i chi.
Hanfodion cyllidebu
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Mae gwneud a rheoli cyllideb gyffredinol ar gyfer gwariant eich cartref yn hanfodol i’ch iechyd ariannol. Ar gyfer gweithgaredd yr wythnos hon, dechreuwch trwy feddwl am bethau rydych wedi cyllidebu ar eu cyfer yn y gorffennol – gwyliau neu bryniant mawr efallai?
-
Mae creu cyllideb yn ei gwneud yn haws gweld ble rydych yn gorwario a lle y gallech dorri’n ôl i’ch helpu i gyrraedd eich nodau ariannol yn gyflymach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw i ddechreuwyr ar reoli eich arian.
-
Nawr eich bod yn gwybod pam ei bod hi’n bwysig, neilltuwch ychydig oriau yn ystod y dyddiau nesaf i greu eich cyllideb eich hun. Byddwn yn eich tywys trwy sut i wneud hynny yn y cam nesaf.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Sut i greu eich cyllideb eich hun
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Casglwch eich datganiadau banc, biliau cartref, cardiau credyd ac unrhyw waith papur benthyciad sy’n ddyledus a gadewch i ni ddechrau.
-
Defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb defnyddiol i gadw trefn ar eich cyllid ac adnabod newidiadau syml y gallwch eu gwneud i gadw at eich cynllun ariannol.
-
Arhoswch yn llawn cymhelliant trwy wneud nodyn ar y calendr i wirio’ch cynllun bob pythefnos i sicrhau eich bod yn cofnodi’ch cynnydd
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Cael y gefnogaeth rydych ei hangen
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Cadwch lygad am ddylanwadwyr cadarnhaol sy’n rhoi anogaeth i chi ac a all eich helpu i gadw at eich rhaglen. Os ydych yn byw gydag eraill, dylech eu cynnwys wrth greu cyllideb. Os nad ydych erioed wedi siarad yn agored am arian gyda phobl sy’n agos atoch chi, defnyddiwch ein canllawiau Siarad am Arian i ddechrau arni.
-
Sicrhewch fod gennych y gefnogaeth o’ch cwmpas rydych ei hangen. Gallai hyn fod yn ffrindiau rydych yn ymddiried ynddynt neu aelodau o’r teulu a allai fod ar daith debyg. Ymunwch â chymuned ar-lein o gynilwyr fel grŵp Facebook Budgeting and Saving gan HelpwrArian
-
Cadwch gysylltiad rheolaidd â’r sawl sydd ar y daith gyda chi i rannu heriau ac ysbrydoli’ch gilydd i ddal ati.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-