Cyn i ni ddechrau, dywedwch wrthym sut ydych yn teimlo am eich arian?
Llongyfarchiadau! Rydych yn edrych i brynu’ch cartref eich hun. Mae’n amser cyffrous ond gall hefyd fod ychydig yn frawychus. Mae yna lawer i’w deall a phethau nad ydych am eu hanghofio yn y broses brynu. Gallwn eich helpu i ddeall y broses morgais a’i gwneud ychydig yn haws.
Gwirio faint allwch chi ei fforddio fenthyg
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
I ddarganfod mwy am feini prawf benthycwyr, gwybodaeth am gynlluniau’r llywodraeth yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall ar y broses morgais, darllenwch ein canllaw ar Faint allwch chi fforddio ei fenthyg am forgais?.
-
Nawr bod gennych syniad da o beth mae benthycwyr ar ei ôl, gallwch ddechrau meddwl faint y dylech chi allu ei fforddio. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Morgais i’ch helpu i weithio popeth allan.
-
Nawr eich bod wedi gwneud eich gwaith cartref, gallwch ddechrau edrych ar eiddo sydd ar werth yn eich hoff ardal i gael syniad o’r hyn sydd yn eich amrediad prisiau. Ond cofiwch y bydd costau prynu tŷ eraill i’w hystyried – mwy ar y rhain yn nes ymlaen.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Cynilo blaendal
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Gadewch i ni edrych ar y gyllideb a grewyd gennych yn Wythnos un. Gyda phopeth wedi’i gynllunio’n glir dylech allu gweld faint y gallwch ei gynilo bob mis tuag at eich blaendal.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o faint o flaendal rydych ei angen, pa help sydd ar gael i roi hwb i’ch cronfa, a ble yw’r lle gorau i gadw’ch cynilion yn y cyfamser trwy ddarllen y canllaw hwn ar ‘Arbed arian ar gyfer blaendal morgais’.
-
Os ydych yn defnyddio cyfrif cynilo, gosodwch nodyn atgoffa ar eich ffôn neu yn y dyddiadur i adolygu’ch cyfradd o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eich bod yn cael y gyfradd llog orau.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Cyllidebu am gostau prynu tŷ eraill
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Pan fyddwch wedi cyfrifo’r math o flaendal y byddwch yn gallu ei groni, mae’n bryd ystyried costau uniongyrchol eraill prynu eiddo. Mae’n bwysig cyllidebu ar gyfer y ffioedd hyn cyn i chi benderfynu ar yr ystod prisiau rydych yn edrych arnynt wrth ddewis eich cartref newydd.
-
Daliwch ati! Mae’n bryd mynd i’r afael â’r broses prynu tŷ, cyfnodau allweddol, llinell amser a pha ffioedd i’w disgwyl. Bydd ein canllaw Proses o brynu cartref , yn eich tywys trwy bopeth gam wrth gam.
Os ydych yn yr Alban, darllenwch ein canllaw Prynu eiddo yn yr Alban.
-
Rydych chi wedi gwneud eich ymchwil, mae gennych eich blaendal ac wedi cyllidebu ar gyfer costau symud tŷ eraill. O’r diwedd mae’n bryd dechrau edrych ar dai!
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-