Cyn i ni ddechrau, dywedwch wrthym sut ydych yn teimlo am eich arian?
Pa bynnag gam rydych arni yn eich bywyd gwaith, mae rhywbeth y gallwch chi ei wneud bob amser i hybu’ch incwm ymddeol. Her yr wythnos hon yw edrych yn fanwl iawn i mewn i bensiynau.
Gwirio eich incwm ymddeol
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Sut olwg sydd ar lefel ffitrwydd eich pensiwn ar hyn o bryd? Os nad ydych yn siwr, edrychwch ar ein canllaw a fydd yn eich helpu i Wirio cynnydd eich cynilion pensiwn ac ymddeol
-
Cyfrifwch eich rhagolwg pensiwn cyfredol, a’r hyn y dylech fod yn anelu ato er mwyn cadw at eich safon byw gyfredol. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell pensiwn defnyddiol i helpu.
-
Sut mae’ch pensiwn yn edrych? A oes lle i wella? Peidiwch â digalonni os ydych yn teimlo eich bod yn rhy bell o’ch targed. Byddwn yn edrych ar sut i gau’r bwlch yn y gweithgareddau nesaf, gan ddechrau â Phensiwn y Wladwriaeth.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Deall eich Pensiwn y Wladwriaeth
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Ydych chi’n gwybod faint i’w ddisgwyl gan Bensiwn y Wladwriaeth a phryd y byddwch yn dechrau ei gael? Cymerwch gip ar ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth i’w ddisgwyl.
-
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich Pensiwn y Wladwriaeth, rhowch alwad i’n tîm arweiniad pensiynau, mae’n rhad ac am ddim ac maent yn hapus i helpu. Ffoniwch 0800 011 3797 neu rhowch gynnig ar ein gwe-sgwrs (https://www.moneyhelper.org.uk/PensionsChat/).
-
Rydych chi wedi cynyddu eich gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sy’n golygu eich bod mewn sefyllfa gref i symud ymlaen. Nawr meddyliwch a fydd angen i chi roi hwb i’ch cronfa bensiwn mewn ffyrdd eraill ai peidio.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-
Cynyddu eich cynilion pensiwn
Ticiwch y camau a chofnodi’ch hwyliau i symud ymlaen i’r wythnos nesaf
-
Yng ngham un, gwnaethoch wirio cynnydd eich cynilion ymddeol. Os ydych wedi adnabod bwlch rhwng eich cynilion amcanol cyfredol a’ch incwm dymunol, mae pethau y gallwch eu gwneud i gronni’r rhain.
-
Mae’n amser i archwilio’ch opsiynau i hybu’ch incwm ymddeoliad. Darllenwch y canllaw hwn ar Sut i gynyddu eich cynilion pensiwn am awgrymiadau a syniadau. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch gallwch siarad ag un o’n harbenigwyr pensiynau am ddim ar 0800 756 1012 neu drwy we-sgwrs.
-
Ar ôl i chi edrych trwy eich opsiynau hybu pensiwn, edrychwch eto ar y Gyfrifiannell pensiwn i weld faint yn agosach ydych chi at eich nod.
-
Sut ydych yn teimlo am eich arian nawr?
-